ysgol

 

 

Mae addysg wedi bod ar gael yn Llandegfan ers dros gant a hanner o flynyddoedd. Mae gennym adeilad yn yr ysgol o'r enw 'Yr Hen Ysgol' sy'n dyddio yn ôl i 1832. Yr oedd ganddi yr adeg honno, ac mae ganddi hyd heddiw, gysylltiad agos gyda'r Eglwys yng Nghymru. Yn fuan iawn daeth yr ysgol hon yn rhy fach, ac adeiladwyd ail ysgol, a'i hagor yn 1890. Gwasanaethodd hon y gymuned wledig hon hyd 1972, pryd yr agorwyd yr ysgol bresennol.

Lleolir yr ysgol ar dir agored yn wynebu'r De De-Ddwyrain, gyda golygfeydd panoramig o fynyddoedd Eryri yn y pellter, ar draws Afon Menai.

Mae tua cant pump deg o blant yn yr ysgol. Bechgyn a genethod rhwng pedair ag unarddeg ydynt i gyd. Mae'r mwyafrif helaeth yn byw o fewn dwy kilomedr i'r ysgol. Mae eraill yn dod o hyd at 10 kilomedr i ffwrdd.

 

School education for young children has been available in Llandegfan for over a hundred and fifty years. We have in the village a building called Yr Hen Ysgol(the Old School) which dates back to 1832. It was then and still is a building with very close Church in Wales ties. This school soon became too small, and another school was built nearby and opened in 1890. This served the mainly rural community until 1972, when the present very unusually designed building was opened

It is situated on open land facing South South-East, with the panoramic views of the Eryri (Snowdonia) mountain range breathtakingly beautiful in the distance, across the famous Menai Straits.

There are some one hundred and fifty pupils, at the School. They are boys and girls aged between four and eleven and the vast majority live within two kilometres of the school. Others come from up to ten kilometres away

 

 

 

pennaeth.llandegfan@anglesey.gov

01248 713 431

Pennaeth

Mr. Richard Jones

 

pennaeth.llandegfan@anglesey.gov

01248 713 431

Headteacher

Mr. Richard Jones